What are the responsibilities and job description for the General Manager / Reolwr Cyffredinol - Anglesey position at The National Trust?
General Manager / Reolwr Cyffredinol - Anglesey
Summary
- INTERNAL APPLICANTS ONLY PLEASE
- YMGEISWYR MEWNOL YN UNIG
We’re looking for a General Manager to join us in our Ynys Môn and Ll?n portfolio. You'll be responsible for the overall strategic and operational leadership of one of the National Trust’s visitor businesses. The portfolio has some of the most dynamic, important and cherished coastal sites in National Trust Cymru, where we are managing high visitor demand, but also seeing significant change and risk from climate change. With houses and gardens at Plas Newydd, you'll manage a Property Leadership Team across diverse departments. Leading from the front, inspiring, and motivating your team, you'll encourage innovation and turning strategy into daily operations.
National Trust Cymru is a bilingual operation, committed to delivering impact and benefit for Wales directly and through the Wellbeing of Future Generations Act. For this role the ability to communicate confidently in Welsh and English are essential.
Crynodeb
Rydym yn chwilio am Reolwr Cyffredinol i ymuno â ni yn ein portffolio Ll?n ac Ynys Môn. Byddwch yn gyfrifol am arweinyddiaeth strategol a gweithredol gyffredinol un o fusnesau ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r portffolio hwn yn cynnwys rhai o'r safleoedd arfordirol mwyaf deinamig, pwysig a phoblogaidd sydd o dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, lle rydym yn rheoli galw mawr gan ymwelwyr, ond hefyd yn gweld newid a risg sylweddol yn sgil newid yn yr hinsawdd. Gyda thai a gerddi ym Mhlas Newydd, byddwch yn rheoli Tîm Arweinyddiaeth Eiddo ar draws adrannau amrywiol. Gan arwain o'r tu blaen, ac ysbrydoli ac ysgogi eich tîm, byddwch yn annog arloesi ac yn troi strategaeth yn weithrediadau dyddiol.
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gorff dwyieithog, sydd wedi ymrwymo i sicrhau effaith a budd i Gymru yn uniongyrchol a thrwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r gallu i gyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
What it's like to work here
Reporting to the regionally based Assistant Director of Operations, you’ll be the figurehead of Ynys Môn and Ll?n, holding key partner relationships on behalf of the organisation, both internally and externally. You'll lead your team operating across a complex and dynamic commercial visitor operation, with exciting plans to deliver more for nature and climate.
Sut beth yw gweithio yma :
Gan adrodd i’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau rhanbarthol, chi fydd arweinydd Ynys Môn a Ll?n, gan gynnal perthnasoedd partner allweddol ar ran y sefydliad, yn fewnol ac yn allanol. Byddwch yn arwain eich tîm gan weithredu ar draws gweithrediad ymwelwyr masnachol cymhleth a deinamig, gyda chynlluniau cyffrous i gyflawni mwy ar gyfer natur a hinsawdd.
What you'll be doing
Leading a team of department heads and working with a large network of national and regional specialists, you’ll develop new ways to engage our supporters, deliver great experiences, meet our conservation requirements, and commercially diversify the estate. You’ll support departments to develop the right priorities, balancing access and conservation while providing the resources and inspirational leadership, ensuring their care, confidence, and capability in delivering our strategy. Behind this work sits a strong culture of risk management and compliance. You'll ensure that all our operations are safe and managed to the highest standards and you’ll understand, anticipate, and manage issues that could affect the Trust’s reputation, finances or assets. The scale of this role means you'll need to be brilliant with finances, people, and projects. You’ll need to know when to delegate, and when to takeownership. Everything you do will be in harmony with our values and ambitions, but it will also make perfect commercial and financial sense. Some weekend working as well as occasional evenings will be required.
Beth fyddwch chi’n ei wneud :
Gan arwain tîm o benaethiaid adrannau a gweithio gyda rhwydwaith fawr o arbenigwyr cenedlaethol a rhanbarthol, byddwch yn datblygu ffyrdd newydd o ddenu sylw ein cefnogwyr, darparu profiadau gwych, cwrdd â’n gofynion cadwraeth, ac arallgyfeirio’r ystâd yn fasnachol. Byddwch yn cefnogi adrannau i ddatblygu'r blaenoriaethau cywir, gan gydbwyso mynediad a chadwraeth tra'n darparu'r adnoddau a'r arweinyddiaeth i ysbrydoli, gan sicrhau eu gofal, eu hyder a'u gallu i gyflawni ein strategaeth. Yn sail i’r gwaith hwn mae diwylliant cryf o reoli risg a chydymffurfiad. Byddwch yn sicrhau bod ein holl weithrediadau’n ddiogel ac yn cael eu rheoli i’r safonau uchaf a byddwch yn deall, yn rhagweld ac yn rheoli materion a allai effeithio ar enw da, cyllid neu asedau’r Ymddiriedolaeth. Mae maint y rôl hon yn golygu y bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyllid, pobl a phrosiectau gwych. Bydd angen i chdi wybod pryd i ddirprwyo, a phryd i gymrydperchnogaeth. Bydd popeth a wnewch yn cyd-fynd â'n gwerthoedd a'n huchelgeisiau, ond bydd hefyd yn gwneud synnwyr masnachol ac ariannol. Bydd angen gweithio rhai penwythnosau yn ogystal â gyda’r nos yn achlysurol.
Who we're looking for
Am bwy ydyn ni’n chwilio :
The package
The National Trust has the motto ‘For everyone, for ever’ at its heart. We’re working hard to create an inclusive culture, where everyone feels they belong. It’s important that our people reflect and represent the diversity of the communities and audiences we serve. We welcome and value difference, so when we say we’re for everyone, we want everyone to be welcome in our teams too.
Click here to find out more about the benefits we offer to support you.
Y pecyn
Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i’ch cefnogi chi.